Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Health and Social Care Committee
Lesley Griffiths AC Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru Bae Caerdydd Caerdydd, CF99 1NA
|
|
Bae Caerdydd / Cardiff Bay
28 Chwefror 2013 |
Annwyl Weinidog,
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Plant a Theuluoedd
Fel y byddwch yn ymwybodol, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Plant a Theuluoedd at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, i’w ystyried.
Yn ystod ein cyfarfod y bore yma, cawsom drafodaethau cychwynnol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a buasem yn ddiolchgar pe gallech ddarparu ychydig o eglurder ar y pwyntiau a ganlyn–
§ pam nad oedd y darpariaethau yn y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’u cynnwys ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Llywodraeth Cymru, oherwydd y maent yn berthnasol i ddarpariaethau yn y Bil hwnnw; a
§ pa fesurau trosiannol sy’n cael eu rhoi yn eu lle mewn perthynas â datgymhwyso’r Ddeddf Mabwysiadu a Phlant yng Nghymru.
Oherwydd bod angen i ni adrodd yn ôl erbyn 22 Mawrth 2013, byddwn yn ddiolchgar iawn i gael ateb gennych erbyn dydd Iau 7 Mawrth er mwyn i Aelodau allu ystyried eich ymateb yn llawn cyn paratoi eu hadroddiad.
Yn gywir
Mark Drakeford AC AM
Cadeirydd – Chair
Cc: Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc